Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 12 Hydref 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 11:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Datganodd Peter Black fuddiant o dan Eitem 6 fel Aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
2. Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013 - Craffu ar waith y Gweinidog Cyllid
2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Andrew Jeffries, Pennaeth Cyllidebu Strategol – Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol; a Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad.
2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y Gweinidog Cyllid i:
· Egluro’r dyraniadau ychwanegol a wnaed i gefnogi blaenoriaethau strategol y Llywodraeth;
· Darparu ffigurau ar nifer y bobl yng Nghymru sy’n talu’r dreth gyngor lawn a’r canran sy’n cael gostyngiad mewn budd-daliadau, gan gynnwys cyfraddau casglu’r dreth gyngor.
· Darparu rhagor o fanylion ynghylch pa raglenni cyfalaf a ddefnyddir i gyflawni’r cynllun seilwaith cenedlaethol dros 10 mlynedd a phwy fydd yn gyfrifol am ymdrin â’r cronfeydd hynny.
3. Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013 - tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
3.1 Croesawodd y Pwyllgor Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, CGGC; Michelle Matheron, Uwch Swyddog Polisi, CGGC; Joy Kent, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru; a Catriona Williams, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru.
3.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd CGGC i ddarparu:
· Manylion y cyllid sydd ar gael ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector, ac amlinelliad o’r effaith y mae’n ei gael ar allu sefydliadau penodol y trydydd sector i symud a chael gafael ar adnoddau ychwanegol. Byddai hyn yn cynnwys ffigurau ar gyfrannau cyllid y sector gwirfoddol a ddaw o grantiau, contractau sy’n cael eu caffael ar sail cystadleuaeth, ac ati.
· Gwybodaeth o’r ‘arolwg dirwasgiad’ diweddaraf gan y CGGC ar y cynnydd yn y galw am wasanaethau’r sector gwirfoddol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
5. Aelodau i ystyried y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013.
6. Adroddiad drafft ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2012-2013
6.1 Ni ddaeth Peter Black AC i’r rhan hon o’r cyfarfod, gan ei fod yn Gomisiynydd Cynulliad.
6.2 Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar y gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2012-2013 a’i gymeradwyo.
7. Ymchwiliad posibl i Gyllid Datganoli
7.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau am gwmpas ymchwiliad ar gyllid datganoli a Chomisiwn y DU a’i gymeradwyo.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.